Cyngor Cymuned Henllys

  Cynnal y Gymuned

Gwneud yn siwr fod Henllys yn le braf a diogel i fyw i'w prif nod y Cyngor.

 

Er mwyn cyflawni hyn mae Cyngor Cymuned Henllys yn ymwneud ag amryw o weithgareddau yn ardal Henllys a hefyd ar hyd Torfaen a Chymru gyfan.

Yn lleol yn Henllys mae'r Cyngor yn -

  • Cynnal, cadw, a darparu cyfarpar ar gyfer prif barc chwarae'r pentref sydd gerllaw Lôn Pentre' Henllys (gweler y ddolen ar y chwith)

 

  • Cyhoeddi cylchlythyr rhad ac am ddim, Herald Henllys, tair gwaith y flwyddyn.

 

  • Noddi Ffair Blynyddol y Pentref i ddarparu adloniant am ddim i blant. e.e. reidiau, castell neidio, megasleid, paentio wynebau, Sioe Punch a Judy.

Aelodau Pwyllgor Neuadd Pentref Henllys fydd yn trefnu Ffair y Pentref sydd yn cael ei chynnal ar yr ail neu'r trydydd Sadwrn o Fehefin pob blwyddyn yn y prif parc chwarae oddi ar Lôn Pentref Henllys. (gweler y ddolen ar y chwith)

  • Noddi planhigion gerllaw'r heol ar hyd Ffordd Henllys.

 

  • Cynnal dau fwrdd hysbysebu, un ar Lôn Pentre' Henllys ac un ar gornel Llwyn  y Fedwen.

 

  • Rhoi grantiau i sefydliadau gwirfoddol ( gweler y ddolen ar y chwith)

 

  • Monitro a pharatoi adroddiad ar broblemau amgylcheddol.

 

  • Adolygu a trosglwyddo sylwadau ar geisiadau cynllunio lleol.

 

  • Noddi gwaith bychain

 

  • Anfon Cynrychiolwyr o'r Cyngor i fod yn aelod o Bwyllgor Neuadd y Pentref.

Byddai o ddiddordeb i'r Cyngor glywed barn neu awgrymiadau gan drigolion Henllys ynghylch unrhyw fater sy'n effeithio ar y gymuned. Ewch i'r dudalen "Cysylltu" am ragor o wybodaeth.

 

Mewn cysylltiadau ehangach mae Cyngor Cymuned Henllys yn -

  • Cynrychioli trigolion Henllys trwy gydweithio gyda chymunedau eraill yng Nghymru yn arbennig i gefnogi  elusennau a gweithgareddau grwpiau gwirfoddol. Y prif gynrychiolydd yn y rôl yw'r Cadeirydd presennol sydd, wrth wisgo regalia'r Cyngor, yn dangos cyfeillgarwch a chydymdeimlad tuag at y gymuned eang ledled y wlad.

 

  • Cynnal cyswllt agos â'r Heddlu Lleol er mwyn bod yn ymwybodol o broblemau a rhoi cymorth ac adborth. Gweler y ddolen PACT ar dudalen "Gwybodaeth Leol"

 

  • Cynrychioli syniadau ein cymuned ar amrywiaeth o gyrff fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Stagecoach, Un Llais Cymru ac eraill.

 

  • Anfon cynrychiolwyr i eistedd ar amryw gyrff allanol fel Canolfan Cynghori, Cymdeithas Sir Cynghorau Lleol, Partneriaeth Adfywio Strategol Cwmbrân, Bwrdd Amgueddfa Torfaen.